Ramblers Cymru yn lansio partneriaeth efo Trafnidiaeth Cymru

Cydweithredu i gysylltu trafnidiaeth gynaliadwy â chyfleoedd cerdded

English

20 January 2023 

Teithiau cerdded newydd o gorsafoedd trên

Bydd 'Cledrau, Clebran, Cerdded' yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau trenau lleol i gael mynediad at lwybrau cerdded newydd sy'n cael eu creu gan Ramblers Cymru ac sydd yn addas i'r teulu, gan ddechrau a gorffen o orsafoedd lleol.

Bydd cyfanswm o 20 llwybr cerdded yn cael eu datblygu mewn 5 gorsaf yn ne Cymru, a 15 yng ngogledd Cymru.

Llwybrau arfaethedig

Mae'r lleoliadau arfaethedig hyn yn ne Cymru yn cynnwys Merthyr i Bentrebach, Bae Caerdydd, Aberdâr, Lefel Isel y Mynydd Bychan (Caerdydd), ac Ynys y Barri. Mae llwybrau ychwanegol llinellol ar gyfer ardal y de yn cynnwys Llandeilo i Barc Dinefwr, a Threhafod i Bontypridd neu Gaerdydd i Benarth.

Mae llwybrau arfaethedig y gogledd yn cynnwys Gwersyllt (Wrecsam), Y Fflint, Abermaw, Caergwrle, Prestatyn, Rhosneigr, Penrhyndeudraeth, Y Drenewydd, Aberystwyth, Penarlâg, Llanrwst, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Porthmadog, a Chricieth. Gallai llwybrau atodol ychwanegol gynnwys Bae Colwyn, Bangor, a Rhosneigr.

I gyd-fynd â'r teithiau cerdded hyn a Blwyddyn y Llwybrau Croeso Cymru, bydd y prosiect partneriaeth hefyd yn darparu cyfres o deithiau cerdded tywys drwy Gymru, gan ddechrau ym mis Ebrill.

Manteision gweithio gyda ein gilydd

Meddai Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at lansio'r prosiect partneriaeth hwn gyda Ramblers Cymru, i annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol a defnyddio eu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at lwybrau cerdded lleol.

"Mae'n bwysig fod pobl yn ymwybodol bod llawer o deithiau cerdded cymharol hawdd y gellir eu cyrraedd gan daith trên syml a chyfle i gael ychydig o ymarfer corff, ymweld ag ardal newydd, a gwella eu lles."  

Dywedodd Angela Charlton, cyfarwyddwr Ramblers Cymru: "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Trafnidiaeth Cymru ar y prosiect hwn i ddatblygu teithiau cerdded. Mae Ramblers Cymru am weld pobl yn cerdded wrth galon cymunedau ac yn yr awyr agored sy'n fwy hygyrch i fwy o bobl.

"Ein gobaith, trwy ddefnyddio ein harbenigedd i greu'r teithiau cerdded hyn o orsafoedd trên y gallwn annog cymunedau i archwilio eu hardal leol ac ymwelwyr i ddod i fwynhau profiad awyr agored cadarnhaol mewn ffordd fwy cynaliadwy.

"Bydd y llwybrau sy'n addas i deuluoedd yn arddangos llwybrau newydd ar draws y rhwydwaith drenau i annog pobl i archwilio mwy o Gymru yn gwario arian ac yn dod â manteision economaidd gyda nhw wrth iddyn nhw ddarganfod y bobl a'r cymunedau ar hyd y ffordd."

Gweithgareddau eraill

Ochr yn ochr â'r teithiau cerdded newydd bydd Ramblers Cymru hefyd yn cyflwyno digwyddiadau adeiladu tîm a gweithgareddau i staff Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys hyfforddiant llwybrau a mapiau a dyddiau gweithgaredd ymarferol i wella mynediad at yr awyr agored mewn cymunedau lleol.