Llwybrau i Lesiant

Gweithio gyda chymunedau yng Nghymru i hyfforddi gwirfoddolwyr i wella mynediad i fyd natur a mannau lleol.

 

English language page

Gwella mynediad at natur yng Nghymru

Mae prosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru yn enghraifft wych o sut mae'r Ramblers yn agor y ffordd i bawb fwynhau'r pleserau syml o gerdded ym myd natur.  Rhoddodd y prosiect gerdded wrth galon 18 cymuned ledled Cymru drwy roi'r offer a'r hyfforddiant iddynt wella natur a mynediad at gerdded yn eu hardaloedd lleol.

Fe wnaethom roi'r offer a'r hyfforddiant rhad ac am ddim i'r cymunedau dethol sydd eu hangen i nodi a dylunio llwybrau cerdded newydd ac i wella llwybrau cerdded presennol.  Ynghyd â 22 o awdurdodau lleol, Ymddiriedolaeth Natur Cymru a Choed Cadw, rydym yn gweithio i wella'r amgylchedd lleol er mwyn i natur ffynnu gyda gweithgareddau fel plannu coed, hau blodau gwyllt a diwrnodau gweithgareddau bywyd gwyllt.

Gallwch ddechrau archwilio un o'r 145 llwybr cerdded newydd a grëwyd heddiw.

Dan arweiniad y gymuned, i'r gymuned

Mae Ramblers Cymru yn credu bod ymgysylltu cymunedol â llwybrau a mannau gwyrdd yn cael ei gryfhau drwy fuddsoddi mewn uwchsgilio, cyfarparu, cefnogi ac arwain gwirfoddolwyr lleol i reoli a chynnal a chadw a gwella llwybrau a chynefinoedd ymarferol. Yn y pen draw, bydd hyn yn cysylltu pobl â buddion iechyd a lles natur a cherdded.

Rydym wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol ac aelodau o'r gymuned i ddiwallu eu hanghenion cymunedol. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan wedi ennill sgiliau newydd gyda chymorth ac arweiniad arbenigol gan Ramblers Cymru a'n partneriaid.

Cymunedau yn cymryd rhan

Gwnaeth 64 cymuned ar draws Cymru gais i fod yn rhan o'r prosiect blaenllaw hwn.

Y 18 cymuned lwyddiannus oedd:

Gogledd-ddwyrain Cymru

  • Dyffryn Clywedog/Parc Caia (Wrecsam)
  • Pwll Glas/Graig Fechan (Dinbych)  
  • Llanfynydd (Sir y Fflint)

Gogledd-orllewin Cymru

  • Ynys Cybi (Ynys Môn)
  • Penmaenmawr (Conwy)  
  • Penrhyndeudraeth (Gwynedd)

Canolbarth Cymru

  • Llechryd (Ceredigion)  
  • Penparcau (Ceredigion)  
  • Llanwrthwl a Rhaeadr Gwy (Powys)

De-ddwyrain Cymru

  • Grosmwnt (Sir Fynwy)
  • Maendy (Casnewydd)
  • Six Bells (Abertyleri)

De-orllewin Cymru

  • Brynberian (Sir Benfro)
  • Llanybydder (Sir Gaerfyrddin)
  • Ystalyfera (Abertawe)

Canol De Cymru

  • Creigiau, Pentyrch a Gwaelod-y-Garth (Caerdydd)
  • Treherbert (Rhondda Cynon Taf)  
  • Coety Uchaf (Pen-y-bont ar Ogwr)

Darganfyddwch fwy

Gallwch nawr ymweld â'r safle Llwybrau i Lesiant i gael gwybod mwy o wybodaeth, gweld y llwybrau a lawrlwytho'r mapiau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni ar PathstoWellbeing@ramblers.org.uk

Derbyniodd y prosiect hwn gyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.